Llongyfarchiadau i Blog Menai am gadw ar frig y siart arbennig yma am flwyddyn arall ac hefyd i Syniadau, sydd wedi datblygu'n adnodd gwerthfawr iawn. Y syndod ydi'n bod ni dal yn yn y tri uchaf!
Mae'n dipyn o beth fod blogiau Pleidiol yn cymryd y pedwar sbot uchaf efo blogiau lled-genedlaetholgar yn rhannu'r rhan fwyaf o'r gweddill. Dim ond Peter Black o'r pleidiau eraill sy'n cael sniff. Sgwn i be ddigwyddodd i Aneurin Glyndwr?
1 (1) Blog Menai
2 (3) Syniadau
3 (2) Plaid Wrecsam
4 (14) Welsh Ramblings
5 (35) Borthlas
6 (9) Peter Black
7 (8) Betsan Powys
8 (6) Miserable Old Fart
9 (13) Wales Home
10 (16) Bethan Jenkins
11 (-) Blog Banw
12 (-) Jac o’ the North
13 (5) Vaughan Roderick
14 (4) Hen Rech Flin
15 (20) Valleys Mam